Home | Online Bookstore | How Do I Meet Witches or Find a Coven? | Thirteen Treasures Study Course
Welsh Resources | Celtic Resources | Shaman Resources | Tantra Resources | Herbal Resources
Articles, Notes, & Writings | Free Spritual Counseling & Healing | Search Engines

 

Flag of Wales

Wales and the Welsh Language

Flag of Wales


Introduction | History of Wales | Historical Reading List | Learning the Welsh Language | Welsh Language Reading List
Cymdeithas Yr Iaith Gymraeg - the Welsh Language Society | Everything Welsh on the Web


starCYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG (THE WELSH LANGUAGE SOCIETY)


Now, lets visit The Welsh Language Society:


Mae'n swnio fel clwb ar gyfer pobl sy'n casglu geiriaduron Cymraeg.... Ydw i'n iawn? Nag wyt! 'Dan ni'n ymgyrchwyr gwleidyddol sy'n ymgyrchu o ddifri dros ein hiaith. AC 'RYDYN NI'N BENDERFYNOL IAWN!

(Sounds like a club for Welsh Dictionary collectors.... Am I right? No. We're serious political campaigners for our language, AND WE MEAN BUSINESS!!!)

Pam fod angen ichi ymgyrchu dros yr iaith????? Er bod llawer o welliannau gweladwy a chalonogol iawn yn sefyllfa'r Gymraeg - fel arwyddion Cymraeg, cyhoeddi yn Gymraeg, Cymraeg ar y teledu ac ar y radio, ffurfleni swyddogol yn Gymraeg, a Chymraeg yn yr ysgolion (gan ddibynu ar ble mae eich ysgol leol!!!) - MAE'R IAITH YN DIRYWIO'N ENBYD......

(Why do you need to campaign for the language????? Despite the many visible and highly encouraging improvements in the position of Welsh - such as Welsh road signs; Welsh publishing; Welsh on T.V. and radio; official forms in Welsh, and Welsh in schools(depending on where the schools are located!!!!) etc., etc., - THE LANGUAGE IS IN SERIOUS DECLINE.....)

Mae Cymru yn un o'r llu o genhedloedd bychain yn Ewrop sy' wedi cael eu hamddifadu o'r hawl i hunan-lywodraeth. Fe unwyd ein gwlad â Lloegr ym 1536 drwy ddeddf gwlad (Senedd Lloegr!). Yn sgîl hyn, cafodd y Gymraeg ei herlid, a gwnaed i'r Cymry deimlo bod eu hunaniaeth ddiwyllianol yn israddol.

Roedd y gyfundrefn addysg Seisnig (a orfodwyd ar Gymru) yn gwahardd y Gymraeg o'n hysgolion tan bell ar ôl troad y ganrif hon. Felly dros y canrifoedd rydyn ni wedi etifeddu rhyw hen hen daeogrwydd ynglyn a'n cymreictod...... Aeth Cymru yn rhanbarth eilradd ac `araf' o Brydain!!! Ystyrid yr iaith yn "fratiaith werinol" a gyfyngwyd i'r cartref, y capel a'r lle gwaith. Cafodd ei hepgor o ganolannau grym ac o fyd masnach, addysg a'r gyfraith......

(Tell me more.....

Wales is one of the many small nations of Europe which have been historically deprived of the right to self-determination. Our country was annexed to England in 1536 by an Act of (England's) Parliament. Welsh was subsequently suppressed and the Welsh people were made to feel that their cultural identity was inferior. The English educational system imposed on Wales prohibited the use of Welsh in schools well into the 20th Century. So we've inherited a centuries-old "inferiority complex" about our Welshness.... Wales became a backward province of "Britain". The language was regarded as a "peasant idiom", relegated to the confines of home, chapel and labour...and excluded from the centres of power, commerce, education and law.....)

Dw'i'di clywed straeon fel hon yn yr Alban, Llydaw, Iwerddon, Gwlad y Basg, Catalunya a.y.y.b. Wedi ein seisnigo fwy fwy, yn werin bobl ymylol a phroletariaidd, roeddem yn bobl hawdd i'n HECSBLOETIO.."Falle caf i waith a'r stad, neu'r bwll glo/chwarel lechi/gwaith dur/dociau/cwmni allforio/y fyddin....."

(I've heard stories like this in Scotland, Brittany, Ireland, The Basque Country, etc. Increasingly anglicised, marginalised & proletarian, we were good subjects for EXPLOITATION.."Maybe I'll get a job on the estate, or in the coal-mine/ slate-quarry/ steelworks/docks/export-business/the Army.....")

Diolch am y wers hanes, ond beth am Y PRESENNOL A'R DYFODOL.....??? Rhaid inni gymryd yr awnau a rheoli ein tynged ein hunain. Y peth pwysig 'nawr yw meithrin diwylliant sy'n wrthsafiad yn erbyn y grymoedd hynny sy'n dinistrio ein hiaith a'n hunaniaith...golyga hyn frwydr am newid sylfaenol yn hytrach na chonsesiynau arwynebol gan y wladwriaeth Brydeinig.

(Thanks for the quick history lesson, but what about THE PRESENT AND THE FUTURE...??? We need to take control of our own destiny. The important thing now is to build a "culture of resistance" against those forces which are destroying our language and our identity...This means a struggle for radical change rather than even more superficial concessions.....

Iawn, dywedwch ychydig mwy am Gymdeithas yr Iaith.... Sefydlwyd ein mudiad yn y chwedegau cynnar fel mudiad a oedd yn ymgyrchu yn y bôn am hawliau sifil ieithyddol Cymry Cymraeg. Ers hynny, esblygodd y mudiad yn wleidyddol, ac erbyn hyn mae ganddo gorff o bolisiau soffistigedig sy'n delio â llawer o'r pwysau cymdeithasol ac economaidd sy'n effeithio ar iaith a hunaniaeth y Cymry. Mae'r rhain yn adlewyrchu ein barn ni mai problemau ECONOMAIDD a GWLEIDYDOL sydd wrth wraidd argyfwng yr iaith yn hytrach na diffyg statws arwynebol neu'r angen am fwy o gonsesiynau gan y wladwriaeth Brydeinig.....

(O.K. Tell me more about Cymdeithas yr Iaith Gymraeg..... Our movement was formed in the early '60s as a movement campaigning basically for the linguistic civil rights of Welsh speakers. Since then the movement has evolved politically, and now has a sophisticated body of politics dealing with many of the social and economic conditions affecting the Welsh language and identity. These reflect our view that the the root causes of the problems facing the Welsh language & identity are ECONOMIC & POLITICAL, rather than a simple lack of superficial status or adequate concessions from the British State.....)

Cytuno'n llwyr! ER MWYN I'R IAITH OROESI A FFYNU, MAE'N RHAID I GYMUNEDAU CYMRAEG OROESI.....(does gennym ddim diddordeb mewn cadw'r iaith am gylchoedd bychain o selogion dosbarth canol ac ysgolheigion..... "Rydan ni'n ymladd dros ddiwylliant cymunedol ac nid "diwylliant amgueddfa"...) ETIFEDDIAETH POB CYMRO A CHYMRAES YW EIN HIAITH A'N DIWYLLIANT BONT YN GYMRAEG EU HIAITH, NEU'N DI-GYMRAEG. DYLAI FOD GAN BOB UN OHONOM YR HAWL I ARDDEL EIN HIAITH A'N DIWYLLIANT EIN HUNAIN.....

(FOR THE LANGUAGE TO SURVIVE & FLOURISH, WELSH COMMUNITIES MUST SURVIVE AND FLOURISH.....(we're not interested in preserving the language for small circles of middle-class enthusiasts and academics....We're fighting for a "community culture", not a "museum culture"...) OUR LANGUAGE AND CULTURE ARE THE HERITAGE OF WELSH PEOPLE, BE THEY WELSH-SPEAKERS OR NON-WELSH SPEAKERS. ALL OF US SHOULD HAVE THE RIGHT TO MEANINGFUL ACCESS TO OUR OWN LANGUAGE & CULTURE....)

Soniwch am rai o'ch ymgyrchoedd..... TAI A MEWNFUDO: Does gan lawer o Gymry ddim mood i gael cartrefi addas. Mae enilion isel a diffyg tai y gellir eu fforddio yn eu cadw y tu allan i'r farchnad eiddo. Cymhlethir y broblem gan y mewnlifiad anferthol o newydd-ddyfodiaid mewnlifiad a gafodd ei hwyluso gan y niferoedd helaeth o dai a godwyd ym mhob cwr o Gymru ac sydd y tu hwmt i gyrraedd ariannol y trigolion lleol. Mewn rhai ardaloedd mae cartrefi gwyliau ac ail gartrefi'n ganran fawr o'r stoc tai. Mae cartrefi ar rent yn brin, ac o safon wael yn aml. MAE'R FFACTORAU HYN I GYD YN LLADD Y CYMUNEDAU CYMRAEG. Bob blwyddyn, mae miloedd o Gymry o dan anfantais ariannol yn cael eu gorfodi i symud allan..... Mae Cymdeithas yyr Iaith Gymraeg yn galw am ddeddf eiddo i Gymru er mwyn sicrhau cartrefi ar gyfer pobl leol, er mwyn amddiffyn ein cymunedau, ac er mwyn amddiffyn y Gymraeg.

(Some of our campaigns..... HOUSING AND MIGRATION: Many Welsh people have no access to decent homes. Low incomes & a lack of affordable housing exclude them from the property market. The problem is compounded by the large-scale migration into Wales of "economically superior" newcomers, catered for by speculative housing out of the reach of locals. In some areas, holiday homes & second homes account for a large percentage of the housing stock. Affordable rented accomodation is scarce and often poor quality. ALL THESE FACTORS ARE DESTROYING WELSH COMMUNITIES. Every year, thousands of economically-disadvantaged Welsh people are forced to emigrate..... Cymdeithas yr Iaith Gymraeg is calling for a PROPERTY ACT for Wales, to secure homes for local people, to protect our communities, and to protect the Welsh language.)

STATWS SWYDDOGOL I'R GYMRAEG: 'Rydyn ni'n galw am Ddeddf Iaith newydd i'r Gymraeg, a fydd yn sicrhau y bydd gan bobl Cymru yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg ac i dderbyn gwybodaeth yn Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r Gymraeg yn cael ei thrin o hyd fel iaith eilradd mwen llawer o agweddau bywyd bob dydd. Mae diwidiant a masnach, a llawer o gyrff swyddogol a gwasanaethu anhepgor yn dal i wrthod cydnabod yr iaith - AC RYDYN NI'N PRYSUR GOLLI AMYNEDD!!! 'Rydyn ni eisiau hawliau ieithyddol cyfartal a'r rhai sydd gan siaradwyr Saesneg yn Lloegr.

(OFFICIAL STATUS FOR WELSH. We call for a NEW WELSH LANGUAGE ACT which will ensure that the people of Wales have the right to use Welsh and receive information in Welsh in all aspects of public life in Wales. Welsh is still treated as a second-class language in many aspects of daily life. Industry & commerce, and many official bodies and essential services continue to refuse to grant recognition of the language. AND WE'RE GETTING VERY IMPATIENT!!! We want linguistic rights equal to those enjoyed by English speakers in England.)

ADDYSG: 'Rydyn ni eisiau system addysg sy'n parchu ein hiaith a'n diwylliant. Dylai Cymry Cymraeg a Chymry di-Gymraeg gael cyfle i feddu ar y Gymraeg, a dylid eu hannog i ymfalchio yn eu hetifeddiaeth ddiwyllianol gyfoethog. Ond yn fwy na hynny, 'rydyn ni eisiau newid BERTHANASOL YNG NGHYMRU... Hefyd 'rydyn ni'n ymgyrchu er mwyn sicrhau gwell trefn a mwy o gydweithreiad i hwyluso'r cynnydd mewn addysg Gymraeg a dosbarthiadau Cymraeg i oedolion.

(EDUCATION: We want an educational system which repects our language & culture. Welsh-speakers & non-Welsh speakers alike should have MEANINGFUL ACCESS to Welsh, and encouraged to take pride in their rich cultural heritage. What's more, we want to change the whole ethos of education in Wales.... Read our policy dicument on RELEVANT EDUCATION IN WALES... We're also campaigning for a co-ordinated approach to the growth of Welsh-medium education and Welsh classes for learners... )

DYSGWYR: 'Rydyn ni'n trefnu cyrsiau ar gyfer dysgwyr dan ofal ein tiwtoriaid gwirfoddol ein hunain. Mae'r cyrsiau bob amser yn fywiog a phoblogaidd. A 'DOES DIM PERYGL I'N CYRSIAU NI FOD YN SYCH AC ANNIDDOROL!! O'r cychwyn cyntaf bu llawer o aelodau blaenllaw y mudiad yn gyn-ddysgwyr.

(LEARNERS: We organise courses for learners, run by our own voluntary tutors. The courses are always lively and well attended, and guaranteed not to be boring!!! From the earliest days of our movement many of our prominent members have been former learners.)

RHYDDID I'R IFAINC: "Rydyn ni'n ymgyrchu dros hawliau pobl ifainc i chwarae rhan fwy blaenllaw yn y drefn sy'n penderfynu pa fath o addysg mae nhw'n ei derbyn, eu hagweddau tuag at y gymuned leol a gwleidyddiaeth, y cyfryngau a hawliau dinesig.

(YOUTH LIBERATION: We're campaigning for the rights of young people to greater participation in decision-making processes, such as those that determine the kind of education they receive, their attitudes to the local community and politics, the media and civil rights.)

Nodiadau yn unig yw'r rhain am rai o'n prif ymgyrchoedd. CEISIWCH FWY O WYBODAETH! Gofynnwch am gopiau o'n taflenni a dogfennau polisi.

(These are just brief notes on some of our main campaigns. FIND OUT MORE! Ask for copies of our leaflets & policy documents.)

Oes 'na rywbeth arall dylwn i wybod am Gymdeithas yr Iaith?..... 'Rydyn ni'n wrth-hiliol, ac mae gennym olwg cydwladol a'r byd a'i bethau.... 'Rydyn ni wedi rhoi cefnogaeth ymarferol gyson i fudiadau fel yr ymgyrch wrth-apartheid, mudiadau heddwch a'r ymgyrch dros hawliau i siaradwyr Gwyddeleg yng Ngogledd Iwerddon.

(Is there anything else I should know about Cymdeithas yr Iaith Gymraeg? We're anti-racist and have an internationalist perspective..... We've given consistent practical support to movements such as the anti-apartheid campaign, the peace movement and the struggle for Irish language rights in the north of Ireland.....)

DULLIAU GWEITHREDU: Gall ein haelodau gyfrannau at yr ymgyrch mewn sawl ffordd. Yn ogystal â threfnu cyfarfodydd, cynadleddau, gwrthdystiadau a raliau, 'rydyn ni'n cyhoeddi pamffledi, llyfrau, taflenni, posteri a'n cylchgrawn misol, "Tafod y Ddraig". 'Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi recordiau a chasetiau gan fandiau roc sy'n gefnogol ini. Mae canghennau lleol yn trefnu ymgyrchoedd lleol ar sail y sefyllfa sydd ohoni ym mhob ardal. Ond mae'r argyfwng sydd yn wynebu'r iaith Gymraeg a'n hunaniaith Gymreig mor ddifrifol erbyn hyn fel bod y sefyllfa yn gofyn am WEITHREDU UNIONGYRCHOL yn aml iawn. Mae gwrthdystiadau, meddiannu adeiladau'r llywodraeth a difrodi adeiliadau y dulliau sydd wedi golygu bod cannoedd o'n haeloau wedi eu dirwyo neu wedi eu carcharu am eu gweithredoedd....AC ETO, GALWN YMFALCHIO EIN BOD NI WEDI YMWRTHOD ERIOED AG UNRHYW FATH O DRAIS I BOBL. Mae'r polisi di-drais hwn yn un o'n cryfderau mwya'.

(METHODS OF ACTION: Our members can contribute to the fight for the language in many different ways. As well as organising meetings, conferences, demonstrations & rallies, we publish pamphlets, books, leaflets, posters and our monthly magazine, Tafod y Ddraig. We've also published records & cassettes by supportive rock bands.... Local branches act as pressure groups and organise local campaigns. But the crisis now facing our Welsh language & identity is so serious that the urgency of the situation often demands DIRECT ACTION. Protests, sit-ins, occupation of Government Buildings and selective damage to property have meant that hundreds of our members have experienced fines & imprisonment for their actions.....YET WE CAN PROUDLY BOAST THAT WE HAVE AND UNBROKEN RECORD OF NON-VIOLENCE TO PERSONS. This policy of non-violence is one of our greatest strengths.)

Dy gam nesa' di... Os wyt ti'n teimlo bod dy syniadau gwleidyddol yn rhai blaengar, ac os wyt ti'n teimlo'n gryf (fel ni) y byddai POB diwylliant a PHOB cenedl ar eu coled, a'r byd ychydig yn dlotach, pe collid unrhyw iaith neu ddiwylliant o wyneb y ddaear, BETH AM GYNNIG HELP INNI?

(Your Next Move... If you feel that your political ideas are of a "progressive" nature, and if you feel strongly, as we do, that ALL cultures and ALL peoples are impoverished by the extinction of any one language or culture, why not help us in our fight for Welsh?)

MAE GWIR ANGEN LLAWER O FFRINDIAU NEWYDD AR Y GYMRAEG. Mae eisiau help arnom ni i godi arian, i ymuno a'n hymgyrchoedd i drefnu cyfarfodydd a gigs ac i werthu ein nwyddau a'n cyhoeddiadau. Hefyd, 'rydyn ni eisiau help i gyfieithu taflenni i ieithoedd eraill...'ELLI DI EIN HELPU????

(The Welsh Language is in real need of many new friends. We need help with fund-raising, publicising our campaigns, organising exchange visits and distributing our publications. We also need voluntary help in translating our material into other languages...CAN YOU HELP??????)

Cysyllta a'n prif swyddfa:

(Contact our main office:)

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Pen Roc, Rhodfa'r Mor
Aberystwyth, Dyfed, Cymru SY23 2AZ
Ffon (Phone): (01970) 624501


lancebar