CYMDEITHAS YR IAITH GYMRAEG (THE WELSH
LANGUAGE SOCIETY)
Now, lets visit The Welsh Language Society:
Mae'n swnio fel clwb ar gyfer pobl sy'n casglu geiriaduron Cymraeg.... Ydw i'n iawn? Nag
wyt! 'Dan ni'n ymgyrchwyr gwleidyddol sy'n ymgyrchu o ddifri dros ein hiaith. AC 'RYDYN
NI'N BENDERFYNOL IAWN!
(Sounds like a club for Welsh Dictionary collectors.... Am I right? No. We're
serious political campaigners for our language, AND WE MEAN BUSINESS!!!)
Pam fod angen ichi ymgyrchu dros yr iaith????? Er bod llawer o welliannau gweladwy a
chalonogol iawn yn sefyllfa'r Gymraeg - fel arwyddion Cymraeg, cyhoeddi yn Gymraeg,
Cymraeg ar y teledu ac ar y radio, ffurfleni swyddogol yn Gymraeg, a Chymraeg yn yr
ysgolion (gan ddibynu ar ble mae eich ysgol leol!!!) - MAE'R IAITH YN DIRYWIO'N
ENBYD......
(Why do you need to campaign for the language????? Despite the many visible and
highly encouraging improvements in the position of Welsh - such as Welsh road signs; Welsh
publishing; Welsh on T.V. and radio; official forms in Welsh, and Welsh in
schools(depending on where the schools are located!!!!) etc., etc., - THE LANGUAGE IS IN
SERIOUS DECLINE.....)
Mae Cymru yn un o'r llu o genhedloedd bychain yn Ewrop sy' wedi cael eu hamddifadu o'r
hawl i hunan-lywodraeth. Fe unwyd ein gwlad â Lloegr ym 1536 drwy ddeddf gwlad (Senedd
Lloegr!). Yn sgîl hyn, cafodd y Gymraeg ei herlid, a gwnaed i'r Cymry deimlo bod eu
hunaniaeth ddiwyllianol yn israddol.
Roedd y gyfundrefn addysg Seisnig (a orfodwyd ar Gymru) yn gwahardd y Gymraeg o'n
hysgolion tan bell ar ôl troad y ganrif hon. Felly dros y canrifoedd rydyn ni wedi
etifeddu rhyw hen hen daeogrwydd ynglyn a'n cymreictod...... Aeth Cymru yn rhanbarth
eilradd ac `araf' o Brydain!!! Ystyrid yr iaith yn "fratiaith werinol" a
gyfyngwyd i'r cartref, y capel a'r lle gwaith. Cafodd ei hepgor o ganolannau grym ac o fyd
masnach, addysg a'r gyfraith......
(Tell me more.....
Wales is one of the many small nations of Europe which have been historically deprived
of the right to self-determination. Our country was annexed to England in 1536 by an Act
of (England's) Parliament. Welsh was subsequently suppressed and the Welsh people were
made to feel that their cultural identity was inferior. The English educational system
imposed on Wales prohibited the use of Welsh in schools well into the 20th Century. So
we've inherited a centuries-old "inferiority complex" about our Welshness....
Wales became a backward province of "Britain". The language was regarded as a
"peasant idiom", relegated to the confines of home, chapel and labour...and
excluded from the centres of power, commerce, education and law.....)
Dw'i'di clywed straeon fel hon yn yr Alban, Llydaw, Iwerddon, Gwlad y Basg, Catalunya
a.y.y.b. Wedi ein seisnigo fwy fwy, yn werin bobl ymylol a phroletariaidd, roeddem yn bobl
hawdd i'n HECSBLOETIO.."Falle caf i waith a'r stad, neu'r bwll glo/chwarel
lechi/gwaith dur/dociau/cwmni allforio/y fyddin....."
(I've heard stories like this in Scotland, Brittany, Ireland, The Basque Country,
etc. Increasingly anglicised, marginalised & proletarian, we were good subjects for
EXPLOITATION.."Maybe I'll get a job on the estate, or in the coal-mine/ slate-quarry/
steelworks/docks/export-business/the Army.....")
Diolch am y wers hanes, ond beth am Y PRESENNOL A'R DYFODOL.....??? Rhaid inni gymryd
yr awnau a rheoli ein tynged ein hunain. Y peth pwysig 'nawr yw meithrin diwylliant sy'n
wrthsafiad yn erbyn y grymoedd hynny sy'n dinistrio ein hiaith a'n hunaniaith...golyga hyn
frwydr am newid sylfaenol yn hytrach na chonsesiynau arwynebol gan y wladwriaeth
Brydeinig.
(Thanks for the quick history lesson, but what about THE PRESENT AND THE
FUTURE...??? We need to take control of our own destiny. The important thing now is to
build a "culture of resistance" against those forces which are destroying our
language and our identity...This means a struggle for radical change rather than even more
superficial concessions.....
Iawn, dywedwch ychydig mwy am Gymdeithas yr Iaith.... Sefydlwyd ein mudiad yn y
chwedegau cynnar fel mudiad a oedd yn ymgyrchu yn y bôn am hawliau sifil ieithyddol Cymry
Cymraeg. Ers hynny, esblygodd y mudiad yn wleidyddol, ac erbyn hyn mae ganddo gorff o
bolisiau soffistigedig sy'n delio â llawer o'r pwysau cymdeithasol ac economaidd sy'n
effeithio ar iaith a hunaniaeth y Cymry. Mae'r rhain yn adlewyrchu ein barn ni mai
problemau ECONOMAIDD a GWLEIDYDOL sydd wrth wraidd argyfwng yr iaith yn hytrach na diffyg
statws arwynebol neu'r angen am fwy o gonsesiynau gan y wladwriaeth Brydeinig.....
(O.K. Tell me more about Cymdeithas yr Iaith Gymraeg..... Our movement was formed in
the early '60s as a movement campaigning basically for the linguistic civil rights of
Welsh speakers. Since then the movement has evolved politically, and now has a
sophisticated body of politics dealing with many of the social and economic conditions
affecting the Welsh language and identity. These reflect our view that the the root causes
of the problems facing the Welsh language & identity are ECONOMIC & POLITICAL,
rather than a simple lack of superficial status or adequate concessions from the British
State.....)
Cytuno'n llwyr! ER MWYN I'R IAITH OROESI A FFYNU, MAE'N RHAID I GYMUNEDAU CYMRAEG
OROESI.....(does gennym ddim diddordeb mewn cadw'r iaith am gylchoedd bychain o selogion
dosbarth canol ac ysgolheigion..... "Rydan ni'n ymladd dros ddiwylliant cymunedol ac
nid "diwylliant amgueddfa"...) ETIFEDDIAETH POB CYMRO A CHYMRAES YW EIN HIAITH
A'N DIWYLLIANT BONT YN GYMRAEG EU HIAITH, NEU'N DI-GYMRAEG. DYLAI FOD GAN BOB UN OHONOM
YR HAWL I ARDDEL EIN HIAITH A'N DIWYLLIANT EIN HUNAIN.....
(FOR THE LANGUAGE TO SURVIVE & FLOURISH, WELSH COMMUNITIES MUST SURVIVE AND
FLOURISH.....(we're not interested in preserving the language for small circles of
middle-class enthusiasts and academics....We're fighting for a "community
culture", not a "museum culture"...) OUR LANGUAGE AND CULTURE ARE THE
HERITAGE OF WELSH PEOPLE, BE THEY WELSH-SPEAKERS OR NON-WELSH SPEAKERS. ALL OF US
SHOULD HAVE THE RIGHT TO MEANINGFUL ACCESS TO OUR OWN LANGUAGE & CULTURE....)
Soniwch am rai o'ch ymgyrchoedd..... TAI A MEWNFUDO: Does gan lawer o Gymry ddim mood i
gael cartrefi addas. Mae enilion isel a diffyg tai y gellir eu fforddio yn eu cadw y tu
allan i'r farchnad eiddo. Cymhlethir y broblem gan y mewnlifiad anferthol o
newydd-ddyfodiaid mewnlifiad a gafodd ei hwyluso gan y niferoedd helaeth o dai a godwyd ym
mhob cwr o Gymru ac sydd y tu hwmt i gyrraedd ariannol y trigolion lleol. Mewn rhai
ardaloedd mae cartrefi gwyliau ac ail gartrefi'n ganran fawr o'r stoc tai. Mae cartrefi ar
rent yn brin, ac o safon wael yn aml. MAE'R FFACTORAU HYN I GYD YN LLADD Y CYMUNEDAU
CYMRAEG. Bob blwyddyn, mae miloedd o Gymry o dan anfantais ariannol yn cael eu gorfodi i
symud allan..... Mae Cymdeithas yyr Iaith Gymraeg yn galw am ddeddf eiddo i Gymru er mwyn
sicrhau cartrefi ar gyfer pobl leol, er mwyn amddiffyn ein cymunedau, ac er mwyn amddiffyn
y Gymraeg.
(Some of our campaigns..... HOUSING AND MIGRATION: Many Welsh people have no access
to decent homes. Low incomes & a lack of affordable housing exclude them from the
property market. The problem is compounded by the large-scale migration into Wales of
"economically superior" newcomers, catered for by speculative housing out of the
reach of locals. In some areas, holiday homes & second homes account for a large
percentage of the housing stock. Affordable rented accomodation is scarce and often poor
quality. ALL THESE FACTORS ARE DESTROYING WELSH COMMUNITIES. Every year, thousands of
economically-disadvantaged Welsh people are forced to emigrate..... Cymdeithas yr Iaith
Gymraeg is calling for a PROPERTY ACT for Wales, to secure homes for local people, to
protect our communities, and to protect the Welsh language.)
STATWS SWYDDOGOL I'R GYMRAEG: 'Rydyn ni'n galw am Ddeddf Iaith newydd i'r Gymraeg, a
fydd yn sicrhau y bydd gan bobl Cymru yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg ac i dderbyn
gwybodaeth yn Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r Gymraeg yn cael
ei thrin o hyd fel iaith eilradd mwen llawer o agweddau bywyd bob dydd. Mae diwidiant a
masnach, a llawer o gyrff swyddogol a gwasanaethu anhepgor yn dal i wrthod cydnabod yr
iaith - AC RYDYN NI'N PRYSUR GOLLI AMYNEDD!!! 'Rydyn ni eisiau hawliau ieithyddol cyfartal
a'r rhai sydd gan siaradwyr Saesneg yn Lloegr.
(OFFICIAL STATUS FOR WELSH. We call for a NEW WELSH LANGUAGE ACT which will ensure
that the people of Wales have the right to use Welsh and receive information in Welsh in
all aspects of public life in Wales. Welsh is still treated as a second-class language in
many aspects of daily life. Industry & commerce, and many official bodies and
essential services continue to refuse to grant recognition of the language. AND WE'RE
GETTING VERY IMPATIENT!!! We want linguistic rights equal to those enjoyed by English
speakers in England.)
ADDYSG: 'Rydyn ni eisiau system addysg sy'n parchu ein hiaith a'n diwylliant. Dylai
Cymry Cymraeg a Chymry di-Gymraeg gael cyfle i feddu ar y Gymraeg, a dylid eu hannog i
ymfalchio yn eu hetifeddiaeth ddiwyllianol gyfoethog. Ond yn fwy na hynny, 'rydyn ni
eisiau newid BERTHANASOL YNG NGHYMRU... Hefyd 'rydyn ni'n ymgyrchu er mwyn sicrhau gwell
trefn a mwy o gydweithreiad i hwyluso'r cynnydd mewn addysg Gymraeg a dosbarthiadau
Cymraeg i oedolion.
(EDUCATION: We want an educational system which repects our language & culture.
Welsh-speakers & non-Welsh speakers alike should have MEANINGFUL ACCESS to Welsh, and
encouraged to take pride in their rich cultural heritage. What's more, we want to change
the whole ethos of education in Wales.... Read our policy dicument on RELEVANT EDUCATION
IN WALES... We're also campaigning for a co-ordinated approach to the growth of
Welsh-medium education and Welsh classes for learners... )
DYSGWYR: 'Rydyn ni'n trefnu cyrsiau ar gyfer dysgwyr dan ofal ein tiwtoriaid gwirfoddol
ein hunain. Mae'r cyrsiau bob amser yn fywiog a phoblogaidd. A 'DOES DIM PERYGL I'N
CYRSIAU NI FOD YN SYCH AC ANNIDDOROL!! O'r cychwyn cyntaf bu llawer o aelodau blaenllaw y
mudiad yn gyn-ddysgwyr.
(LEARNERS: We organise courses for learners, run by our own voluntary tutors. The
courses are always lively and well attended, and guaranteed not to be boring!!! From the
earliest days of our movement many of our prominent members have been former learners.)
RHYDDID I'R IFAINC: "Rydyn ni'n ymgyrchu dros hawliau pobl ifainc i chwarae rhan
fwy blaenllaw yn y drefn sy'n penderfynu pa fath o addysg mae nhw'n ei derbyn, eu
hagweddau tuag at y gymuned leol a gwleidyddiaeth, y cyfryngau a hawliau dinesig.
(YOUTH LIBERATION: We're campaigning for the rights of young people to greater
participation in decision-making processes, such as those that determine the kind of
education they receive, their attitudes to the local community and politics, the media and
civil rights.)
Nodiadau yn unig yw'r rhain am rai o'n prif ymgyrchoedd. CEISIWCH FWY O WYBODAETH!
Gofynnwch am gopiau o'n taflenni a dogfennau polisi.
(These are just brief notes on some of our main campaigns. FIND OUT MORE! Ask for
copies of our leaflets & policy documents.)
Oes 'na rywbeth arall dylwn i wybod am Gymdeithas yr Iaith?..... 'Rydyn ni'n
wrth-hiliol, ac mae gennym olwg cydwladol a'r byd a'i bethau.... 'Rydyn ni wedi rhoi
cefnogaeth ymarferol gyson i fudiadau fel yr ymgyrch wrth-apartheid, mudiadau heddwch a'r
ymgyrch dros hawliau i siaradwyr Gwyddeleg yng Ngogledd Iwerddon.
(Is there anything else I should know about Cymdeithas yr Iaith Gymraeg? We're
anti-racist and have an internationalist perspective..... We've given consistent practical
support to movements such as the anti-apartheid campaign, the peace movement and the
struggle for Irish language rights in the north of Ireland.....)
DULLIAU GWEITHREDU: Gall ein haelodau gyfrannau at yr ymgyrch mewn sawl ffordd. Yn
ogystal â threfnu cyfarfodydd, cynadleddau, gwrthdystiadau a raliau, 'rydyn ni'n cyhoeddi
pamffledi, llyfrau, taflenni, posteri a'n cylchgrawn misol, "Tafod y Ddraig".
'Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi recordiau a chasetiau gan fandiau roc sy'n gefnogol ini. Mae
canghennau lleol yn trefnu ymgyrchoedd lleol ar sail y sefyllfa sydd ohoni ym mhob ardal.
Ond mae'r argyfwng sydd yn wynebu'r iaith Gymraeg a'n hunaniaith Gymreig mor ddifrifol
erbyn hyn fel bod y sefyllfa yn gofyn am WEITHREDU UNIONGYRCHOL yn aml iawn. Mae
gwrthdystiadau, meddiannu adeiladau'r llywodraeth a difrodi adeiliadau y dulliau sydd wedi
golygu bod cannoedd o'n haeloau wedi eu dirwyo neu wedi eu carcharu am eu
gweithredoedd....AC ETO, GALWN YMFALCHIO EIN BOD NI WEDI YMWRTHOD ERIOED AG UNRHYW FATH O
DRAIS I BOBL. Mae'r polisi di-drais hwn yn un o'n cryfderau mwya'.
(METHODS OF ACTION: Our members can contribute to the fight for the language in many
different ways. As well as organising meetings, conferences, demonstrations & rallies,
we publish pamphlets, books, leaflets, posters and our monthly magazine, Tafod y Ddraig.
We've also published records & cassettes by supportive rock bands.... Local branches
act as pressure groups and organise local campaigns. But the crisis now facing our Welsh
language & identity is so serious that the urgency of the situation often demands
DIRECT ACTION. Protests, sit-ins, occupation of Government Buildings and selective damage
to property have meant that hundreds of our members have experienced fines &
imprisonment for their actions.....YET WE CAN PROUDLY BOAST THAT WE HAVE AND UNBROKEN
RECORD OF NON-VIOLENCE TO PERSONS. This policy of non-violence is one of our greatest
strengths.)
Dy gam nesa' di... Os wyt ti'n teimlo bod dy syniadau gwleidyddol yn rhai blaengar, ac
os wyt ti'n teimlo'n gryf (fel ni) y byddai POB diwylliant a PHOB cenedl ar eu coled, a'r
byd ychydig yn dlotach, pe collid unrhyw iaith neu ddiwylliant o wyneb y ddaear, BETH AM
GYNNIG HELP INNI?
(Your Next Move... If you feel that your political ideas are of a
"progressive" nature, and if you feel strongly, as we do, that ALL cultures and
ALL peoples are impoverished by the extinction of any one language or culture, why not
help us in our fight for Welsh?)
MAE GWIR ANGEN LLAWER O FFRINDIAU NEWYDD AR Y GYMRAEG. Mae eisiau help arnom ni i godi
arian, i ymuno a'n hymgyrchoedd i drefnu cyfarfodydd a gigs ac i werthu ein nwyddau a'n
cyhoeddiadau. Hefyd, 'rydyn ni eisiau help i gyfieithu taflenni i ieithoedd eraill...'ELLI
DI EIN HELPU????
(The Welsh Language is in real need of many new friends. We need help with
fund-raising, publicising our campaigns, organising exchange visits and distributing our
publications. We also need voluntary help in translating our material into other
languages...CAN YOU HELP??????)
Cysyllta a'n prif swyddfa:
(Contact our main office:)
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Pen Roc, Rhodfa'r Mor
Aberystwyth, Dyfed, Cymru SY23 2AZ
Ffon (Phone): (01970) 624501